Harwyr Busnes Lleol
Gyda’r newyddion fod siopau’n gallu ailagor, roeddem eisiau manteisio ar y cyfle i ddathlu rhai o’r busnesau lleol GWYCH sydd wedi mynd tu hwnt i’r angen i wasanaethu eu cymuned yn ystod yr argyfwng hwn.
Rydym yn dangos ein gwerthfawrogiad i’r Gorsafoedd Ail-lenwi hynny sydd wedi gorfod addasu eu busnesau a gweithio oriau hir i ddarparu ar gyfer eu cwsmeriaid, y rhai sy’n parhau i fod yn garedig i’r blaned yng nghanol pandemig byd eang, a’r rhai sydd wir wedi gwneud gwahaniaeth i’n bywydau dan y cyfyngiadau symud.
The Station yn Llangrallo, Pen-y-bont ar Ogwr
Beth yw enw eich busnes arwr lleol
The Station yn Llangrallo oedd ddim ond newydd agor yn ddiweddar cyn y cyfyngiadau symud, ac sy’n ymroddedig i leihau plastig a gwastraff arall. Eu nod yw bod yn orsaf ail-lenwi ar gyfer grawnfwydydd a ffacbys, yn ogystal â bwydydd eraill cyn gynted â phosibl.
Beth mae nhw wedi ei wneud ar ran eich cymuned yn ystod y cyfyngiadau symud?
- Parhau i ddarparu eu bocsys ffrwythau a llysiau lleol i’r gymuned sy’n arwain at leihad mawr mewn plastig.
- Maent wedi cefnogi busnesau lleol eraill ac wedi codi arian tuag at gyfarpar diogelu personol i’r GIG: “Pob wythnos, byddwn ni’n rhoi sylw i fusnes lleol a fydd yn cynnwys crefftau, bwyd, rhoddion a mwy. Gellir ychwanegu’r eitemau hyn i’ch bocsys ffrwythau a llysiau a byddwn yn cyfrannu cyfran o bob pryniant yn uniongyrchol i’r adran Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Uwchradd Caerdydd sydd yn y broses o greu feisorau cyfarpar diogelu personol i achub bywydau ar gyfer y GIG.”
- Rhoddodd Beth a Jess ffrwythau a llysiau ffres i Ganolfan Gymunedol Talbot yn y Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr i drigolion bregus allu manteisio arnynt – gweler y llun.
Beth hoffech chi ei ddweud wrth y perchnogion busnes lleol gwych yma?
“Mae Jess a Beth wedi bod yn chwa o awyr iach i Langrallo a Phen-y-bont ar Ogwr yn gyffredinol. Nid yn unig maent yn ymroddedig i leihau plastig a’n helpu i brynu a chynhyrchu llai o wastraff, maen nhw eisiau helpu’r gymuned leol i fwyta’n ffres, cefnogi busnesau lleol eraill a chreu canolfan gynnes, gyfeillgar i bobl gwrdd a chael coffi a chacen. Gan ystyried mai dim ond newydd agor oedden nhw cyn y cyfyngiadau symud, mae nhw wedi mynd tu hwnt i’r galw wrth wynebu’r her i godi arian ar gyfer y GIG, ac i roi ffrwythau a llysiau ffres i bobl fregus ar draws Pen-y-bont ar Ogwr. Diolch, The Station!”
Awesome Wales, Y Barri
Beth yw enw eich busnes arwr lleol
Awesome Wales. Siop dim gwastraff cyntaf y Barri.
Beth mae nhw wedi ei wneud ar ran eich cymuned yn ystod y cyfyngiadau symud?
Mae nhw wedi parhau i fod ar agor try gynnig gwasanaeth clicio a chasglu yn ogystal â chychwyn gwasanaeth danfon i’r rhai yn y grwpiau sy’n gwarchod. Mae eu cynnyrch bwyd a nwyddau o’r safon uchel bob tro, ac er gwaethaf yr amgylchiadau a’r ffaith eu bod dan eu sang gydag archebion ar adegau, mae hwyliau da arnynt bob tro. Roeddynt yn arbennig o garedig tuag at gartref gofal yn y Barri oedd wedi methu cael gafael ar unrhyw flawd. Fe adawont 50KG o flawd yno am ddim i’r staff i sicrhau y gallai’r preswylwyr gael eu crymbl i bwdin!
Beth hoffech chi ei ddweud wrth y perchnogion busnes lleol gwych yma?
Diolch enfawr! Mae Stuart ac Amy wedi bod yn chwa o awyr iach i’r Barri ers agor Awesome Wales. Mae nhw wedi helpu ehangu’r gymuned dim plastig yn y Barri ac rydym mor ddiolchgar am eu gwasanaeth ac ymroddiad i’w cymuned trwy gydol y pandemig hwn.
Rydym am glywed gennych!
Pa Orsaf Ail-lenwi hoffech chi ddangos gwerthfawrogiad iddynt? Anfonwch e-bost i [email protected] a rhoi gwybod i ni am eich enwebiad Arwr Busnes Lleol yn esbonio pam eu bod mor fendigedig!