Nwyddau amldro + Canllawiau COVID
Newyddion da ar gyfer y Chwyldro Ail-lenwi
Mis diwethaf fe ryddhawyd datganiad gan dros 100 o wyddonwyr yn cadarnhau nad yw plastig defnydd unigol yn ddim mwy diogel nag unrhyw ddeunydd arall a’i bod yn gwbl ddiogel i ddefnyddio nwyddau amldro yn ystod COVID-19 ar yr amod eu bod wedi eu glanhau’n briodol. Golyga hyn ei bod yn ddiogel i staff Gorsafoedd Ail-lenwi a’r cyhoedd ddefnyddio a derbyn poteli, cwpanau a chynwysyddion amldro ar yr amod y dilynir cyngor diogelwch bwyd safonol y llywodraeth ar gyfer iechyd a hylendid.
Fel sefydliad, mae City to Sea wedi bod yn gweithio’n galed i gadw eitemau amldro ar y ddewislen. Cymrwch olwg ar y ganolfan COVID a nwyddau amldro i gael y newyddion, cyngor a chwestiynau cyffredin diweddaraf ar gyfer derbyn eitemau amldro yn ddiogel, gan gynnwys Coffi Digyswllt (Contactless Coffee), canllaw i dderbyn cwpanau amldro yn ddiogel.
Cadw’n ddiogel, torri syched
Gan weithio gyda’n partneriaid Ail-lenwi a’r Tasglu Ailddefnyddio REPEAT, rydym nawr wedi creu arweiniad ar gyfer Gorsafoedd Ail-lenwi ar dderbyn poteli amldro yn ddiogel ar gyfer ail-lenwi gyda dŵr yfed.
Trwy ddilyn y camau hynod hawdd yma, byddwch chi a’ch staff a chwsmeriaid yn gallu parhau i bweru’r #RefillRevolution ac atal miliynau o boteli plastig defnydd unigol rhag cyrraedd ein ffrwd gwastraff, a chanfod eu ffordd i’n cefnforoedd.
Gobeithio y bydd y canllaw hwn yn eich helpu i fynd ati i Ail-lenwi’n ddiogel! Os nad ydych chi eisoes wedi cofrestru ar gyfer yr ymgyrch Ail-lenwi, ceir rhagor o wybodaeth ar gymryd rhan yma.
Rhestr wirio ar gyfer Gorsafoedd Ail-lenwi
Efallai y bydd nifer o systemau dŵr wedi bod yn sefyll ddisymud oherwydd bod yr eiddo naill ai ar gau neu gyda llai o staff yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau diweddar. Dylai gorsafoedd ail-lenwi sy’n ailagor wedi egwyl gymryd golwg ar nodyn briffio Water UK ar adfer cyflenwadau dŵr yfed mewn adeiladau a rhwydweithiau yn dilyn cyfnod hir o ddiffyg gweithgaredd. Mae hyn yn darparu’r arweiniad pwysicaf ar sut i adfer systemau dŵr yfed yn ddiogel – allweddol i unrhyw un sy’n darparu ail-lenwadau!
Dilynwch yr arweiniad yn y Deyrnas Unedig ar gyfer bwytai yn darparu cludfwyd/danfoniadau a siopau a busnesau sy’n gallu agor i’r cyhoedd. Gellir cymryd camau i leihau risg wrth ryngweithio â’r cyhoedd (e.e. wrth werthu bwyd a diod) trwy:
- leihau cyswllt
- creu sgriniau ffisegol
- glanhau’r gweithle
- darparu arweiniad ar y safle ar gadw pellter cymdeithasol a hylendid ac ati
Ar yr amod y dilynir yr uchod, mae’n ddiogel i Orsafoedd Ail-lenwi barhau i gynnig ail-lenwad dŵr yfed am ddim i’w cwsmeriaid. Hwre!
Fe wyddom fod gan Orsafoedd sawl ffordd wahanol i gynnig ail-lenwadau. Felly, gan weithio gydag arbenigwyr a gyda chefnogaeth ein partneriaid a’r grŵp REPEAT, rydym wedi datblygu’r canllaw canlynol i arddangos pedwar dewis ar gyfer derbyn poteli amldro’n ddiogel.
Er mai opsiynau digyswllt yw’r dewis a ffafrir – gan fod hyn yn golygu llai o risg o halogiad o gyswllt arwynebol – mae modd defnyddio rhwystrau, golchi dwylo a glanhau cynyddol yn effeithiol i leihau’r risgiau i’r dulliau yma o gynnig ail-lenwadau dŵr.
Cyngor ar gyfer Gorsafoedd Ail-lenwi sy’n cynnig ail-lenwadau dŵr dros y cownter
Opsiwn 1 – ail-lenwi digyswllt
1. Creu man penodedig ar y cownter i’r cwsmer roi ei botel ddŵr amldro. Rydym yn awgrymu defnyddio’r sticer potel ddŵr Ail-lenwi, cysylltwch os hoffech chi i ni anfon un.
2. Mae’r cwsmer yn tynnu’r caead oddi ar y botel ddŵr amldro, yn rhoi’r botel ar y sticer ar y cownter ac yna’n camu i ffwrdd.
3. Mae’r gweinydd yn camu ymlaen, arllwys dŵr o jwg (yn ddelfrydol gyda chaead) i mewn i’r botel heb gyffwrdd y botel ac yn camu’n ôl
4. Mae’r cwsmer yn camu ymlaen, yn cymryd y botel ac yn symud i ffwrdd o’r cownter cyn rhoi’r caead yn ei ôl – neu gymryd llymaid i dorri syched!
Opsiwn 2 – defnyddio rhwystr
1. Mae’r cwsmer yn tynnu’r caead oddi ar y botel ddŵr amldro, yn rhoi’r botel ar y sticer / hambwrdd ar y cownter ac yna’n camu i ffwrdd.
2. Mae’r gweinydd yn cymryd y botel, gan ddefnyddio rholyn glas neu hances bapur i’w ddal (peidiwch â defnyddio plastig!).
3. Mae’r gweinydd yn llenwi’r botel o’r tap ac yn ei roi yn ôl ar y cownter gan dynnu’r hances bapur / rholyn glas.
4. Mae’r cwsmer yn codi’r botel ac yn gosod y caead yn ei ôl.
Cyngor ar gyfer Gorsafoedd Ail-lenwi sy’n cynnig hunan lenwi gan gwsmeriaid
1. Mae’r busnes yn creu ardal ail-lenwi benodedig – dylai hyn fod yn lleoliad sydd wedi ei farcio’n glir. Rydym yn argymell defnyddio cynhwysydd caeedig fel jar Kilner mawr neu jwg gyda chaead gan y bydd hyn yn cael gwared ar y risg o halogi trwy resbiradu.
2. Mae’r cwsmer yn golchi ei ddwylo’n drylwyr ac yn defnyddio hylenydd dwylo a ddarparwyd gan yr Orsaf Ail-lenwi yn yr ardal cyn ac wedi cyffwrdd y jwg neu dap. Efallai y byddai’n syniad i Orsafoedd Ail-lenwi hefyd ddarparu hancesi papur i’r cwsmer eu defnyddio wrth gyffwrdd y cynhwysydd ail-lenwi.
3. Mae’r cwsmer yn arllwys dŵr o’r cynhwysydd ail-lenwi i botel ddŵr lân heb gyffwrdd top y botel.
4. Ar ysbeidiau rheolaidd, mae staff yn yr Orsaf Ail-lenwi yn glanhau’r ardal Ail-lenwi a’r cynhwysydd.
5. Wrth ail-lenwi’r cynhwysydd, dylai staff wisgo mwgwd i osgoi halogiad o resbiradu.
Cyngor ar gyfer Gorsafoedd Ail-lenwi sy’n cynnig ail-lenwadau o ffynnon ddŵr
Dylid glanhau a chynnal ffynhonnau dŵr yn rheolaidd yn unol â chanllawiau safonol.
1. Mae defnyddiwr y ffynnon yn aros bellter diogel o’r ffynnon ac oddi wrth unrhyw arall wrth aros i’w ddefnyddio. (Gwiriwch gyngor diweddaraf y llywodraeth ar gyfer eich ardal leol ar y canllawiau pellter cymdeithasol a argymhellir).
2. Dylai’r defnyddiwr olchi ei ddwylo’n drylwyr neu ddefnyddio hylenydd dwylo cyn ac wedi cyffwrdd y botwm/unrhyw ran o’r ffynnon. Yn ddelfrydol, dylai osgoi cyffwrdd y golofn ddŵr/ffroenell – fe allai ddefnyddio penelin neu ben-glin i weithredu’r ffynnon ble fo’n briodol. Dylai’r defnyddiwr fod yn ofalus i beidio tisian neu beswch yng nghyfeiriad y ffynnon.
3. Dylai defnyddiwr y ffynnon adael i’r dŵr lifo am 10 eiliad cyn llenwi i sicrhau od y dŵr yn ffres.
Adnoddau a chanllaw defnyddiol i fusnesau
- Canllaw Coffi Digyswllt ar gyfer derbyn eitemau amldro yn ddiogel
- Canllaw dŵr a hylendid safonol Ail-lenwi a ddatblygwyd gyda chwmnïau dŵr y Deyrnas Unedig
- Canllaw Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer bwytai sy’n cynnig cludfwyd/danfoniadau
- Canllaw Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer siopau a busnesau sy’n gallu agor i’r cyhoedd
- Rhestr wirio’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer ail-agor
- Canllaw’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar hylendid personol
- Canllaw cyfredol y Llywodraeth ar eitemau amldro
- Canllaw Gorsaf Ail-lenwi City to Sea
- Welsh Government guidance covering shops and businesses that can open to the public.
Adnoddau defnyddiol ar ffynhonnau dŵr
- Cyngor hylendid ffynnon gan yr arbenigwyr oeryddion dŵr MIW.
- Canllaw Water UK ar ddŵr llonydd – mae hyn yn bwysig wrth drechu’r risg o Glefyd y lleng filwyr.
Chwilio am ragor o wybodaeth neu ffyrdd i helpu cadw nwyddau amldro ar y ddewislen?
Efallai’ch bod yn Orsaf Ail-lenwi sydd hefyd yn cynnig coffi i fynd. Neu eich bod yn cynnig cludfwyd ac eisiau gwneud y dewisiadau cywir o ran cynwysyddion a phecynnu. Wrth i chi lywio trwy ailagor wedi’r cyfyngiadau symud, mae gan y ganolfan wybodaeth COVID ac Amldro yr holl awgrymau, cyngor ac arweiniad i’ch helpu i ailgychwyn mewn ffordd sy’n ddiogel i’ch staff, cwsmeriaid ac i’r blaned.
Hoffem glywed gennych sut ydych chi’n ymdopi wrth gynnig ail-lenwadau yn ystod y cyfnod Coronafeirws, felly anfonwch air atom gydag unrhyw adborth ar y canllaw hwn.